Gofod-amser
Math o gyfrwng | continwwm, ffenomen ffisegol |
---|---|
Math | curved spacetime |
Rhan o | bydysawd |
Yn cynnwys | Gofod, amser |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn ffiseg, gofod-amser (Saesneg: spacetime) yw'r cysyniadau hynny lle cyfunir amser a gofod yn un ddamcaniaeth, a lle mae sawl model mathemategol yn plethu drwy'i gilydd. Hyd at 20g roedd gofod 3-dimeniswn yn gysyniad hollol ar wahân i'r cysyniad o amser; newidiwyd hynny pan gyhoeddwyd damcaniaeth perthnasedd arbennig Einstein, a ysbrydolodd Hermann Minkowski, yn 1908, i gyfuno'r ddau mewn cyfuniad o gysyniadau unedig a elwir heddiw yn 'ofod-amser' neu'n ofod-Minkowski.
Fe'i disgrifiwyd gan rai gwyddonwyr fel 'defnydd realaeth' (the fabric of reality).[1] Mae'r ddamcaniaeth hefyd wedi cynorthwyo'r gwyddonydd i symlhau llawer o gysyniadau eraill ynglŷn â'r bydysawd, a hynny o'r enfawr, i'r mawr i'r bach: o uwchalaethau i fater isatomig. Fel y rhan fwyaf o gysyniadau, gellir ei egluro gyda mathemateg neu drwy ei ddarlunio'n weledol; efallai mai'r darlun mwyaf poblogaidd o ofod-amser yw haen denau o rwber ystwyth sy'n rhoi pan roddir mas arni. Disgyrchiant yw'r mas, yn y ddelwedd hon, gyda gofod-amser yn cael ei warpio neu ei blygu.
-
Diagaram gofod-amser o 2 ffoton sydd wedi tarddu o'r un lleoliad/digwyddiad; y naill yn teithio i'r dde a'r llall i'r chwith.
-
Canolwyd y côn-golau hwn ar un digwyddiad, sy'n rhannu gweddill gofod-amser yn 'orffennol', 'dyfodol' a 'lle arall'.
-
Y côn-golau gyda dimensiwn amser.
-
Yr hyperbola sefydlog, sy'n cynnwys lleoliadau a ellir eu cyrchu o'r canol gan glociau sy'n teithio ar gyflymder gwahanol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ New Scientist; the Collection; cyfrol 3, rhif 5; tud 8.